2 Chronicles 3

Dechrau adeiladu'r Deml

(1 Brenhinoedd 6:1-38; 7:15-22)

1Yna dechreuodd Solomon adeiladu teml yr Arglwydd ar fryn Moreia yn Jerwsalem, yn y lle roedd Dafydd wedi dweud, sef ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Dyna lle roedd yr Arglwydd wedi cyfarfod Dafydd. 2Dechreuodd adeiladu ar ail ddiwrnod yr ail fis o'i bedwaredd flwyddyn fel brenin
3:2 Byddai hyn tua Ebrill – Mai, 966 CC
.

3A dyma fesuriadau sylfaeni'r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio.) 4Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw
3:4 Fel rhai llawysgrifau Groeg a Syrieg, sy'n dweud 20 cufydd (sef tua 9 metr); Mae'r Hebraeg yn dweud 120 cufydd, sydd dros 54 metr.
metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi ei gorchuddio gydag aur pur.

5Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi ei addurno gyda coed palmwydd a cadwyni. 6Roedd y deml wedi ei haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o Parfaîm 7i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd ceriwbiaid wedi eu cerfio yn addurno'r waliau.

8Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur. 9Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Ac roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd. 10Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau geriwb a'i gorchuddio nhw gydag aur. 11Roedd adenydd y ddau geriwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y ceriwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol. 12Wedyn roedd aden arall yr ail geriwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i'r deml. 13Roedd yr adenydd gyda'i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw'n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn. 14Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o geriwbiaid wedi ei frodio arno.

15O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau. 16Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i'w gosod ar y cadwyni. 17Gosododd y ddau biler o flaen y brif neuadd yn y deml – un ar y dde a'r llall ar y chwith. Galwodd yr un oedd ar y dde yn Iachin a'r un oedd ar y chwith yn Boas.

Copyright information for CYM